Gŵyl Draig Beats yng Ngerddi Botaneg Treborth
Cyswllt: whisper@draigbeats.wales
Bydd Draig Beats yn dychwelyd ddydd Sadwrn, 7 Mehefin 2025 i Ardd Fotaneg Treborth!
Mae’n ddigwyddiad codi arian sy’n gyfeillgar i deuluoedd, ac yn parhau i adeiladu pontydd rhwng y Brifysgol a chymunedau lleol. Bydd digonedd o gerddoriaeth fyw, sgyrsiau, gweithdai, bwyd a diod, yn ogystal ag arddangos mentrau lleol a llawer o weithgareddau i gadw'r plant yn brysur!
Mae'r ŵyl yn cael ei rhedeg gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr gyda'r nod o godi arian i helpu i gefnogi ein ffrind a'n cydweithiwr ysbrydoledig Dr Sophie Williams, cyn-ddarlithydd mewn cadwraeth planhigion ym Mhrifysgol Bangor. Yn anffodus, mae hi'n dal i fyw mewn cartref gofal ar ôl dal Enceffalitis Japaneaidd wrth wneud gwaith maes. Rydym yn codi arian i gefnogi ei hanghenion gofal arbenigol ac i alluogi teithiau iddi ymweld â'i ffrindiau a'i chydweithwyr.
Ymunwch â ni am ddiwrnod allan gwych a helpwch ni i godi cymaint o arian â phosib.
* Gwirfoddoli *
Os hoffech chi wirfoddoli yn yr ŵyl cliciwch yma: https://volunteersignup.org/P9HXY ar gyfer y rolau
* Tocynnau *
Am docynnau cliciwch yma: https://ticketpass.org/…/EADYOA/draig-beats-festival-2025