Hanes Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Ffurfiwyd mudiad Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth yn 1997 gan griw o unigolion brwdfrydig a oedd yn angerddol dros yr ardd. Roeddent eisiau cefnogi gwaith cynnal a chadw a datblygu’r ardd, yn ogystal ag ehangu gweithgarwch a fyddai'n hybu gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o'r safle a'i gasgliadau. Mae aelodaeth y Cyfeillion wedi cynyddu dros amser, a daeth yn elusen gofrestredig yn 2008. Mae dros 400 o bobl yn aelodau erbyn hyn.

 

Mae’r gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth ymarferol sylweddol i weithrediad yr ardd, ac ynghyd â hwyluso ei swyddogaethau addysgol a gwyddonol, maent yn cyfrannu miloedd lawer o oriau o waith y flwyddyn. Yn ogystal â hynny, mae aelodau'n cynnig cefnogaeth ariannol i brojectau penodol drwy godi arian, yn enwedig drwy werthu planhigion a chynnal gweithgareddau codi arian eraill. 

Perthynas â Phrifysgol Bangor

Prifysgol Bangor sy'n berchen ar yr ardd ac yn ei rheoli. Mae gan y Cyfeillion berthynas waith ardderchog gyda Churadur yr Ardd, a chyda staff eraill y Brifysgol.

Ymweld â gwefan Gardd Fotaneg Treborth

Llywodraethu

Mae'r Cyfeillion yn elusen (rhif elusen 1126087) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant (rhif cwmni 6238935). Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol, datblygu strategaeth a chydymffurfio’n gyfreithiol ac ariannol.

Cefnogir yr ymddiriedolwyr gan nifer o weithgorau sy'n delio â materion gweithredol, megis rheoli aelodaeth, trefnu digwyddiadau gwerthu planhigion a digwyddiadau eraill, a gofalu am y wefan a'r newyddlen.

  • i) Hyrwyddo, neu gynorthwyo i hyrwyddo, cadwraeth tiroedd, gerddi a chofadeiliau Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor, Treborth, Bangor, a’r gwaith o’u datblygu a’u cynnal a’u cadw.

    ii) Cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y tiroedd a’r gerddi, yn enwedig drwy hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol ac addysgol, ar ran aelodau’r Gymdeithas, ysgolion, colegau, grwpiau oedolion ac aelodau’r cyhoedd.

    iii) Gwarchod, annog, cefnogi a gwella gwerth gwyddonol casgliadau planhigion byw y tiroedd a’r gerddi, y cynefin y maent yn ei gynnig i fywyd gwyllt cynhenid, a’u pwysigrwydd amgylcheddol i’r ardal.

Ymddiriedolwyr

  • Sarah Edgar (Cadeirydd)

  • Tony Howard (Ysgrifennydd)

  • Cath Dixon (Trysorydd)

  • Teri Shaw

Codi arian

Un o weithgareddau pwysicaf y Cyfeillion yw codi arian a chaiff y rhan fwyaf o'r arian ei godi drwy ddigwyddiadau gwerthu planhigion. Fel arfer cynhelir dau ddigwyddiad gwerthu planhigion yn y gwanwyn, a thrydydd yn yr hydref pan agorir yr ardd fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Codir arian hefyd trwy ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys ymweliadau â gerddi eraill, sgyrsiau a darlithoedd, a thrwy roddion hael gan aelodau ac aelodau o'r cyhoedd nad ydynt yn ymwneud â'r ardd.

Cefnogwch ni

Cefnogi'r ardd

Yn ogystal â rhoi miloedd o oriau o gymorth gwirfoddol bob blwyddyn, mae’r Cyfeillion hefyd yn helpu gyda phrojectau penodol, gyda’r prosiectau’n newid o flwyddyn i flwyddyn.

Mae projectau diweddar yn cynnwys rhoi labeli ar blanhigion, byrddau dehongli newydd, a sied ar gyfer storio offer a pheiriannau.

Newyddlenni

Cyhoeddwyd newyddlen reolaidd o'r cychwyn cyntaf, ac i lawer o aelodau, dyma gyfle i ddarllen am uchafbwyntiau’r ardd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Mae aelodau'n derbyn pob newyddlen drwy'r post neu'n electronig. Mae pob newyddlen yn cynnwys newyddion am yr ardd, ynghyd â llawer o erthyglau unigryw gan aelodau a chyfranwyr eraill am bynciau sy’n ymwneud â garddio, garddwriaeth a botaneg ac sy’n seiliedig ar brofiadau o bedwar ban byd.

Pori drwy’r newyddlenni blaenorol

Fforwm Cyfeillion Gerddi Botaneg (FBGF)

Rydym yn aelod o FBGF, sef rhwydwaith o erddi botaneg yn y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y fforwm hwn i ddod â grwpiau Cyfeillion ynghyd i ddysgu o brofiadau ei gilydd, i gefnogi ei gilydd ac i gyfnewid syniadau.

Dysgu mwy