Back to All Events

Diwrod Agored y Cynllun Gerddi Cenedlaethol

  • Gardd Fotaneg Treborth Bangor, LL57 2RQ (map)

Mae gennym bedwar tŷ gwydr, ar gyfer ein casgliadau o blanhigion trofannol, tymherus, tegeiriannau a chigysol. Mae’r ardaloedd awyr agored yn cynnwys yr ardd Tsieineaidd, gardd greigiau, pyllau, gardd gorsiog, casgliad bambŵ, borderi wedi’u plannu (gan gynnwys gardd neithdar), dolydd llawn rhywogaethau, coetir ac arboretum. Mae gennym ni ddwy ardd newydd: Gardd Maint Cymru, a ddyluniwyd gan Dan Bristow ac a enillodd wobr aur yn Sioe Flodau Chelsea’r RHS yn 2024; a Gardd Feddyginiaethol Cymru a gwblhawyd yn gynharach eleni. Bydd teithiau tywys o amgylch yr ardd allanol.

Bydd planhigion a dyfwyd gan Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth ar gael i'w prynu ar y diwrnod.

Te, coffi a chacennau cartref.

Mynediad £4, plant am ddim (mae'r holl daliadau mynediad yn mynd i elusennau'r Cynllun Gerddi)

Previous
Previous
21 June

Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)

Next
Next
15 July

Taith Gerdded Pennaeth yr Ardd Fotaneg i aelodau'r Cyfeillion