Digwyddiadau

Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis darlithoedd, gweithdai, teithiau maes, ymweliadau â'r ardd, digwyddiadau gwerthu planhigion a diwrnodau agored.

Cynhelir y sesiynau bob pythefnos ar y 1af a'r 3ydd dydd Sadwrn o bob mis.

Bydd te, coffi a bisgedi.   Gellir darparu deunyddiau i ddechreuwyr.

RHAID ARCHEBU

e-bost: doreensbotanicals@gmail.com neu ffoniwch 07508 728418 i gadw lle.

Gŵyl y Cynhaeaf - Sioe Flodau a Chrefftau Treborth
Sept
26

Gŵyl y Cynhaeaf - Sioe Flodau a Chrefftau Treborth

Mae'r arddangosfa ar agor i bawb. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y digwyddiad yw dathlu sgiliau a diddordebau Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth. Felly, cymerwch ran a dewch â rhywbeth gyda chi! 

Rydych chi'n rhan o'r panel beirniadu! Mae'r pleidleisio'n dechrau tua 11:30 y bore. Byddwch yn cael slip pleidleisio ac amser i grwydro a chloriannu. Nid yw categorïau 5, 6 a 7 yn rhan o'r bleidlais gyhoeddus, ond byddant yn cael eu beirniadu gan banel arbenigol. Unwaith y bydd y pleidleisiau wedi'u cyfrif, hwyrach y gofynnir i’r cyhoedd flasu’r cynnyrch!

Talu ar y diwrnod. Aelodau Cyfeillion yr Ardd: £3.00, y cyhoedd £5.00, dan 16 oed am ddim.

I gymryd rhan:

Caiff unrhyw un arddangos. Rhaid dod ag unrhyw beth i’r arddangosfa cyn 11 y bore ar ddiwrnod y sioe (26.09.2026).

 Gellir dod ag unrhyw nwyddau nad ydynt yn ddarfodus i Dreborth o'r 23ain o Fedi, rhwng 9 a 3 o’r gloch.

Gellir dod â nwyddau darfodus o ddydd Gwener y 25ain o Fedi, ond ni allwn ni roi unrhyw gynnyrch yn yr oergell, felly bydd angen dod â chynnyrch o’r fath ar ddiwrnod y sioe, o 9 tan 11 y bore.

Dim mwy na dau gais fesul categori, ond cewch gystadlu mewn cynifer o gategorïau ag y dymunwch.

Os bydd lle yn broblem, efallai y bydd yn rhaid i ni ofyn i arddangoswyr sydd â dau gais gyflwyno un yn unig.

Cliciwch ar 'Darllen Mwy' isod i weld y categorïau a rheolau manwl y sioe. ‍

View Event →
Half Ffwng
Oct
3

Half Ffwng

Digwyddiad rhoi.

Mae lliwiau a siapiau’r ffyngau a’r straeon amdanynt yn hudolus. Dewch i chwilio amdanyn nhw yn Nhreborth!

Mae’n bleser gennym groesawu’r arbenigwyr, Nigel Brown a Charles Aron, yn ôl i Dreborth i’r helfa ffwng flynyddol. Mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr. Mae dros 400 o rywogaethau yn Nhreborth, ac mae’n gyfle gwych i’r teulu oll ddysgu mwy am y byd cudd rhyfeddol hwn.

Lluniaeth ar werth.

Dim angen cadw lle. Dewch yn brydlon a chwrdd y tu allan i'r prif adeilad.

Byddwn yn derbyn rhoddion, gyda cherdyn yn ddelfrydol, ar y diwrnod.

View Event →
Cyfarfod Cymdeithas Arctig-Alpaidd Gogledd Cymru: Jim Jermyn - Gerddi Branklyn - Gwaddol Mr a Mrs Renton
Oct
8

Cyfarfod Cymdeithas Arctig-Alpaidd Gogledd Cymru: Jim Jermyn - Gerddi Branklyn - Gwaddol Mr a Mrs Renton

Jim Jermyn - Gerddi Branklyn - Gwaddol Mr a Mrs Renton

7.30 tan 9pm (drysau'n agor yn fuan ar ôl 7pm)

£4 i gynnwys raffl planhigion am ddim a lluniaeth ysgafn.

Y siaradwr ar gyfer sgwrs y noson yw'r garddwr a’r arbenigwr enwog ar blanhigion alpaidd, Jim Jermyn, sydd i lawr o'r Alban ar daith ddarlithio fer.  Mae ganddo brofiad o arwain meithrinfeydd alpaidd a gerddi botaneg ac ar hyn o bryd mae'n ymgynghorydd garddwriaethol ac yn wirfoddolwr yn yr RBG yng Nghaeredin.  Dywed Jim fod gwasanaethu fel Prif Arddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn fraint enfawr ac, yn ei achos ef, fe’i galluogodd ef a’i dîm i ymdrechu i ddiogelu gwaddol y perchnogion gwreiddiol. Dyma werthfawrogiad personol iawn o Ardd enwog Branklyn a rhai o'r trysorau, gan gynnwys eu pabi glas chwedlonol, a blannwyd gan y teulu Renton.

View Event →
Gweithdy Blodau’r Hydref
Oct
10

Gweithdy Blodau’r Hydref

Blodau'r Hydref - gweithdy gyda Ruth Jennings, Blodau Blooms 

Gwnewch drefniant blodau hydrefol syml i fynd adref efo chi, gyda Ruth o Blodau Blooms. Dewiswch o ddetholiad o flodau a dail, gan gynnwys blodau Mihangel anarferol - pob un wedi'i dyfu ar Ynys Môn. 

Dim angen unrhyw brofiad. 

Cynhelir y cwrs yn nhai gwydr Treborth. Bydd diod a bisgedi ar gael. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y cwrs, cysylltwch â Ruth Jennings ar info@blodaublooms.co.uk.  

Rhaid archebu – dim ond 12 lle sydd ar gael. Archebwch drwy Eventbrite: Gweithdy Blodau'r Hydref

£25 i aelodau (defnyddiwch y ddolen Cysylltwch â Ni uchod i ofyn am god disgownt); £30 i'r rhai nad ydynt yn aelodau.

View Event →
Cyfarfod Cymdeithas Arctig-Alpaidd Gogledd Cymru: Keith Bankier - Van a Dwyrain Twrci
Nov
12

Cyfarfod Cymdeithas Arctig-Alpaidd Gogledd Cymru: Keith Bankier - Van a Dwyrain Twrci

Keith Bankier - Van a Dwyrain Twrci

7.30 tan 9pm (drysau'n agor yn fuan ar ôl 7pm)

£4 i gynnwys raffl planhigion am ddim a lluniaeth ysgafn.

Y siaradwr ar gyfer sgwrs y noson yw Keith Bankier, aelod ers tro o’r Gymdeithas Gerddi Alpaidd (AGS), sy’n ymwneud yn helaeth â Grŵp Gogledd Swydd Gaerhirfryn. Mae'n heliwr a ffotograffydd profiadol a brwdfrydig planhigion gwyllt ledled Ewrop, ond yn enwedig Twrci, ar ôl cyfrannu tua 50 o luniau at “Bulbous plants of Turkey and Iran” gan Peter Sheasby. Wrth wneud hynny, mae wedi adeiladu llyfrgell enfawr o'r byd naturiol a geir yn y lleoedd hyn.

View Event →

Cyfarfod Cymdeithas Arctig-Alpaidd Gogledd Cymru: Rob Amos - Gwarchod Planhigion Alpaidd mewn Byd sy'n Newid 
Sept
10

Cyfarfod Cymdeithas Arctig-Alpaidd Gogledd Cymru: Rob Amos - Gwarchod Planhigion Alpaidd mewn Byd sy'n Newid 

Rob Amos - Gwarchod Planhigion Alpaidd mewn Byd sy'n Newid 

7.30 tan 9pm (drysau'n agor yn fuan ar ôl 7pm)

£4 i gynnwys raffl planhigion am ddim a lluniaeth ysgafn.

Y siaradwr ar gyfer sgwrs y noson yw Rob Amos, sef Llywydd presennol y Gymdeithas Gerddi Alpaidd (AGS). Yn gyfreithiwr ifanc, sy'n arbenigo mewn cyfraith cadwraeth, mae hefyd yn aelod o'r AGS bron gydol ei oes, gan dyfu i fyny yn helpu ei nain a’i daid, sydd hefyd yn aelodau gweithredol o'r AGS, yn yr ardd ac yn sioeau'r AGS. Bydd ei sgwrs yn archwilio rhai o'r gwahanol fygythiadau y mae planhigion alpaidd yn eu hwynebu yn y gwyllt a rôl cymdeithasau fel yr AGS wrth hyrwyddo eu cadwraeth a'u gwarchodaeth.

View Event →
‘Rhwng Day Bont’ Diwrod Agored Hanesyddol yng Ngardd Fotaneg Treborth
Sept
5

‘Rhwng Day Bont’ Diwrod Agored Hanesyddol yng Ngardd Fotaneg Treborth

Ymunwch â ni am Ddiwrnod Agored Hanesyddol arbennig yng Ngardd Fotaneg Treborth wrth i ni ddathlu 200 mlynedd o Bont Menai. Darganfyddwch hanes cyfareddol yr Ardd a'i lleoliad unigryw rhwng dwy bont eiconig trwy gyfres o deithiau cerdded treftadaeth tywys ac arddangosfa hanesyddol sy'n arddangos ein hymchwil.

Mae'r digwyddiad hefyd yn rhan o agoriad blynyddol ein Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS). Mae mynediad i'r Ardd am ddim, tra bydd rhoddion ar gyfer y teithiau cerdded tywys yn cefnogi gwaith amhrisiadwy’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Byddwch chi hefyd yn gallu:

  • Pori drwy ein gwerthiant planhigion poblogaidd, sy'n cynnwys ystod eang o blanhigion a dyfir yn Nhreborth.

  • Mwynhau lluniaeth cartref drwy gydol y dydd.

  • Archwilio un o erddi botaneg harddaf Gogledd Cymru wrth eich pwysau.

Dim angen cadw lle.

Mynediad am ddim. Rhoddir rhoddion ar gyfer y daith gerdded dan arweiniad i'r National Garden Scheme.

View Event →
Arddangosfa Celf Fotaynegol 
Aug
29

Arddangosfa Celf Fotaynegol 

‍ Bydd Grŵp Celf Fotaneg Treborth yn arddangos gwaith artistiaid amatur lleol, gan gynnwys amrywiaeth o ddarluniau ar thema eleni, sef 'Bwytadwy'. Bydd y darluniau
wedi’u gwneud â dyfrlliw a phensiliau lliw’n dathlu ffrwythau a llysiau byd natur!

Dydd Llun 24 Awst i ddydd Sadwrn 29 Awst - 10am tan 3.30pm

*** MYNEDIAD AM DDIM! *** Croesewir rhoddion 

Bydd cardiau cyfarch a chardiau Nadolig Treborth ar werth yn ystod yr arddangosfa.

View Event →
Bore Gwyfynod yng Ngardd Fotaneg Treborth
Aug
22

Bore Gwyfynod yng Ngardd Fotaneg Treborth

‍ ‍Dydd Sadwrn 22 Awst 09.00 - 11.00

Dewch i ddysgu am fyd rhyfeddol gwyfynod! Yn aml, rydym ni'n anwybyddu'r creaduriaid prydferth hyn oherwydd eu bod nhw'n hedfan yn y nos yn bennaf, ond mae amrywiaeth eu siapiau a'u lliwiau yn rhyfeddol. Bu rhaglen cofnodi gwyfynod yng Ngardd Fotaneg Treborth ers bron i ddeugain mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae dros 400 o rywogaethau wedi cael eu cofnodi. Rhoddir trapiau gwyfynod allan dros nos ac yna caiff y gwyfynod eu hadnabod a'u rhyddhau'n ofalus heb eu niweidio yn y bore. 

Dyma wahoddiad ichi ymuno â Nigel Brown a thîm cofnodi gwyfynod Treborth ar ddydd Sadwrn yr 22ain o Awst i weld beth a ddaliwyd yn y trapiau. A ddown ni o hyd i Droedweision, Melynion a Charpogion? Hwyrach un neu ddau o Grybachau, Gemau Smotiau, a Gemau Pres. Mae’r Gwythiennau Coch mor drawiadol ag y mae eu henw'n awgrymu a gall y Cleiau Lloerol greu argraff gyda’u niferoedd mawrion. Yn dibynnu ar y gwyntoedd, mae'n bosib y bydd gwyfynod mudol, mawr a bach, wedi gwneud eu ffordd o'r de.  Mae hi wastad yn gyffrous darganfod pa wyfynod sydd wedi nythu yn y cardbord yn y trapiau dros nos!

Dim angen cadw lle. £5 ar y diwrnod (mae myfyrwyr a phlant 18 old neu iau yn mind i mewn am ddim)

View Event →
Teithiau Cerdded Tywysedig yng Ngarrd Fotaneg Treborth
Jul
30

Teithiau Cerdded Tywysedig yng Ngarrd Fotaneg Treborth

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein rhaglen teithiau cerdded haf yn Nhreborth!

Thema wahanol bob tro, dan arweiniad ein harbenigwyr yn nhîm y canllawiau gardd.

Yn dechrau am 2.30 bob yn ail ddydd Iau, gan ddechrau ddydd Iau nesaf, 2il Gorffennaf.

Dyma'r rhestr o deithiau cerdded - dewch am yr un sy'n eich plesio - neu bob un ohonyn nhw!

30 ain Gor: Gwaddol yr Helper Planhigion Taith gerdded a sgwrs am yr helper planhigion i’r Deyrnas Unedig ac yn y pen draw i Dreborth

13 eg Aws: Rhyfeddodau Coetir Taith i goedwig forwrol genedlaethol brin Treborth

27 ain Aws: Y Planhigyn Cywir , Y Lle Cywir? Taith gerdded sy’n ystyried ffactorau sy’n ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant neu fethiant planhigion

Dim angen archebu. £10 y pen gan gynnwys lluniaeth ysgafn.

‍ ‍ *** Dim cwn ac eithrio cwn cymorth ***

‍ ‍

View Event →
Cyfarfod Aelodau Blynyddol a Garddwest
Jul
11

Cyfarfod Aelodau Blynyddol a Garddwest

*** DIGWYDDIADi AELODIODAU YN UNIG ***

11 GORFFENNAF 2026. 2:30 y pnawn tan 5.00 yr hwyr

Gwahoddir pob aelod yn gynnes i'n Cyfarfod Blynyddol ar 11 Gorffennaf, 2026.

Rydym yn cynnal hyn ym mis Gorffennaf eleni, fel y gallwn ni hefyd fwynhau'r Ardd yn ei hsblander hafaidd.

Bydd rhai arddangosfeydd a chyflwyniadau byr am waith y Cyfeillion dros y 18 mis diwethaf ers ein Cyfarfod Blynyddol diwethaf, ac yna bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Yna mae croeso ichi grwydro’r ardd. Bydd Natalie yn hapus i ddangos datblygiadau diweddaraf TWIG (Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd) yn y goedwig i unrhyw aelodau. Hefyd, gall Ruth a Richard fynd â chi i weld y rhedynfa newydd sy'n cael ei chreu y tu ôl i'r iard.

Atebwch i gadarnhau lle. Anfonwch e-bost atom ni ar treborthbotanic@outlook.com

View Event →
Teithiau Cerdded Tywysedig yng Ngardd Fotaneg Treborth
Jul
2

Teithiau Cerdded Tywysedig yng Ngardd Fotaneg Treborth

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein rhaglen teithiau cerdded haf yn Nhreborth!

Thema wahanol bob tro, dan arweiniad ein harbenigwyr yn nhîm y canllawiau gardd. Yn dechrau am 2.30 bob yn ail ddydd Iau, gan ddechrau ddydd Iau nesaf, 2il Gorffennaf.

Dyma'r rhestr o deithiau cerdded - dewch am yr un sy'n eich plesio - neu bob un ohonyn nhw!

2 Gorffennaf: Amgylch y Byd mewn 80 Munud  Taith o amgylch yr ardd yn canolbwyntio ar blanhigion o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Tsieina, De Affrica a Môr y Canoldir.

16 Gorffennaf: Mythau a Meddyginiaethau  Cipolwg ar ddefnyddiau meddyginiaethol a hanesion y planhigion yn yr Ardd Perlysiau Cymreig ac ardaloedd eraill.

30 Gorffennaf: Gwaddol yr Helwyr Panhigion  Taith gerdded a sgwrs am yr helwyr planhigion a ddaeth â phlanhigion i’r Deyrnas Unedig ac yn y pen draw i Dreborth.

13 Awst: Rhyfeddodau Coetir   Taith i goedwig forwrol genedlaethol brin Treborth.

27 Awst: Y Planhigyn Cywir, Y Lle Cywir? Taith gerdded sy’n ystyried ffactorau sy’n effeithio ar lwyddiant neu fethiant planhigion.

Dim angen archebu. £10 y pen gan gynnwys lluniaeth ysgafn.

*** Dim cwn ac eithrio cwn cymorth ***

View Event →
Taith i Dwyni a Blaen Traeth Aberffraw
Jun
30

Taith i Dwyni a Blaen Traeth Aberffraw

Taith i Dwyni a Blaen Traeth Aberffraw

Dydd Mawrth 30 Mehefin 13.30 - 17.30

Bydd Nigel yn dangos hanes naturiol y system dwyni hon i ni, yn enwedig y planhigion hynod ddiddorol ac amrywiol. Bydd y daith hefyd yn cynnwys y traeth a chipolwg ar blanhigion y draethlin ac anifeiliaid y draethlin sydd wedi eu golchi i'r lan.

Bydd yn daith gerdded gylchol o tua 3km, ar dir esmwyth. Gwisgwch yn unol â’r tywydd: esgidiau call, het haul, haenau cynnes a chôt sy’n dal dŵr. Dewch ag eli haul a dŵr.

Cyfarfod yn y maes parcio yn Aberffraw, i’r dwyrain o’r afon. Cyfeirnod grid: SH 357689; What3Words: ///valley.smarting.wiggling.

Rhaid archebu – dim ond 25 lle sydd ar gael. Archebwch trwy Eventbrite: Twyni a Blaen Traeth Aberffraw

Cost: £6.00 ynghyd â ffi archebu i aelodau neu westeion; defnyddiwch Cysylltwch â Ni uchod i gael cod gostyngiad.

£8.00 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

View Event →
Arwerthiant Planhigion y Gwanwyn
May
23

Arwerthiant Planhigion y Gwanwyn

Lle: Gardd Fotaneg Treborth

Aelodau yn unig 10.00am tan 11.00am;

Y Cyhoedd 11.00am tan 1.00pm.

Mae'r holl blanhigion wedi eu tyfu gan Gyfeillion Treborth a garddwriaethwyr Gardd Fotaneg Treborth Bydd gennym ddewis eang o blanhigion ar gael, a fydd yn cynnwys eginblanhigion llysiau, planhigion unflwydd a lluosflwydd, planhigion cigysol, cacti a phlanhigion suddlon, planhigion tŷ, coed a llwyni, a mwy! Byddwn hefyd yn gwerthu amrywiaeth o luniaeth, a chacennau, jam a siytni. 

Bydd detholiad o fusnesau lleol talentog hefyd yn cynnal eu stondinau eu hunain yn gwerthu cynnyrch lleol a chynnyrch a wnaed â llaw. 

Gallwn gymryd taliadau digyswllt ac arian parod. Parcio am ddim. 

Mae gan aelodau Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth awr arwerthiant preifat o 10.00 tan 11.00. 

View Event →
Taith Gerdded Blodau Gwyllt - gydag Anna Williams
May
18

Taith Gerdded Blodau Gwyllt - gydag Anna Williams

‍ ‍Dydd Llun y 18fed o Fai 5.00 - 7.00 yr hwyr

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg

Dewch i ddysgu am flodau gwyllt yng nghoedwigoedd Treborth gyda'r ecolegydd  Anna Williams sy’n arbenigwraig ar flodau gwyllt. Bydd y dolydd yn llawn blodau gwyllt ym mis Mai felly mae'n amser delfrydol i ddysgu sut i'w hadnabod gan ddefnyddio lens llaw a llyfr adnabod, a gânt eu darparu. Addas ar gyfer dechreuwyr.

Dewch â dillad ac esgidiau neu fotasau addas rhag ofn bod y ddaear yn wlyb.

Rhaid archebu – dim ond 12 lle sydd ar gael.Archebwch trwy Eventbrite: Wildflower walk

£8 i aelodau (defnyddiwch y ddolen Cysylltwch â Ni uchod i ofyn am god disgownt); £12 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

View Event →
Teithiau Cerdded Tywysedig Cyhoeddus                 (yn Gymraeg)                     
May
17

Teithiau Cerdded Tywysedig Cyhoeddus (yn Gymraeg)                     

‍ ‍ Dydd Sul yr 17ain o Fai 2.30 - 4.00 y pnawn (yn Gymraeg)

Rydym yn cynnal cyfres o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn, dan arweiniad gwirfoddolwyr o Gyfeillion Treborth. Bydd taith gerdded yr 17eg o Fai yn cael ei harwain yn y Gymraeg.

Rydym yn gofyn am gyfraniad o £5 yr un, a fydd yn cael ei gasglu ar y diwrnod; gellir talu ag arian parod neu gerdyn. Nid oes rhaid archebu lle ymlaen llaw, ond byddai'n gymorth i ni gyda’r trefniadau pe baech yn gwneud.Cliciwch ar y ddolen i fynd â chi i’r dudalen Eventbrite, yna cliciwch ar y botwm "archebu lle".

Ar ôl y daith gerdded bydd diodydd a chacen ar gael i'w prynu. Archebwch eich lluniaeth ymlaen llaw, fel arall ni ellir diwallu anghenion dietegol arbennig.

Man cyfarfod: y tu allan i brif fynedfa adeiladau Gardd Fotaneg Treborth. Gwisgwch esgidiau addas ar gyfer llwybrau glaswellt a heb arwyneb a dillad awyr agored sy'n addas ar gyfer pa bynnag dywydd a ragwelir.

Croeso i bob oed ond ni fydd y daith gerdded yn addas i gadeiriau gwthio na phramiau. Dim cŵn heblaw cŵn tywys.

Photo: Leon Jamieson

View Event →
Tynnu lluniau o blanhigion - gweithdy gyda John Gorham a Rob Sellex            
May
16

Tynnu lluniau o blanhigion - gweithdy gyda John Gorham a Rob Sellex            

‍ ‍Dydd Sadwrn yr 16eg o Fai 2.00 - 5.00 y pnawn

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg

Gwella’ch sgiliau mewn ffotograffiaeth agos a macro. I’r rhai sy’n defnyddio camerâu o bob math, gan gynnwys ffonau symudol. Bydd John Gorham a Rob Sellex yn dangos i chi sut i gael y gorau o'ch camera er mwyn i chi allu tynnu lluniau gwych o blanhigion yn eich gardd.

Cynhelir y cwrs yn nhai gwydr Treborth. Bydd diod a bisgedi ar gael. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cwrs, cysylltwch â John Gorham (johnandchris.gorham@btinternet.com).

Rhaid archebu – dim ond 10 lle sydd ar gael.Archebwch trwy Eventbrite: Photo workshop

£10 i aelodau (defnyddiwch y ddolen Cysylltwch â Ni uchod i ofyn am god disgownt); £20 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

View Event →
Dathlu Planhigion Alpaidd a hanner canrif ers sefydlu Grŵp Gogledd Cymru Y Gymdeithas Gerddi Alpaidd
May
14

Dathlu Planhigion Alpaidd a hanner canrif ers sefydlu Grŵp Gogledd Cymru Y Gymdeithas Gerddi Alpaidd

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg

Mae Cangen Gogledd Cymru o’r Gymdeithas Gerddi Alpaidd yn cynnal eu sioe blanhigion flynyddol yn Nhreborth. Mae'n sioe anffurfiol iawn a gall unrhyw un gymryd rhan. Beirniedir drwy bleidlais gyhoeddus, gyda phawb yn cael cyfle i bleidleisio i ddewis yr enillwyr.

Cliciwch ar Darllen Mwy isod i weld amserlen y sioe.

Bydd raffl blanhigion, a lluniaeth ysgafn (gan gynnwys cacen!). Bydd planhigion ar werth o Feithrinfa Aberconwy. Ceir dau gyflwyniad byr: un gan Barbara Jones, a fydd yn tynnu ar ei phrofiad hir o blanhigion alpaidd yng Nghymru ac un gan yr aelod sefydlol John Good, a fydd yn dod â rhai planhigion o'i ardd ac yn siarad amdanynt ac yn rhannu ychydig o'r doethineb a gronnwyd o dyfu planhigion anarferol drwy gydol ei oes.

Cynhelir y digwyddiad dan do, ond bydd gerddi a thai gwydr Treborth ar agor i'w harchwilio.

Os ydych chi'n dod â phlanhigion i’r sioe, cyrhaeddwch erbyn 6 yr hwyr fan bellaf. Mae'r digwyddiad yn cychwyn yn swyddogol am 6.30.  

View Event →
Ymweliad â Phlas Maenan
May
12

Ymweliad â Phlas Maenan

Ymweliad â Phlas Maenan, 12 Mai 10.00 tan 12.00 

Rydym wedi trefnu ymweliad â Phlas Maenan yn Nyffryn Conwy a thaith dywys gan y prif arddwr.

Mae gerddi Plas Maenan yn cynnwys pedwar hectar, gyda lawntiau mawr, pyllau addurnol, gwelyau ffurfiol a choetir gyda chlychau'r gog a llawer o goed a llwyni aeddfed, gan gynnwys rhododendron a magnolia, a ddylai edrych yn ysblennydd ym mis Mai. Bydd Debbie Adams, y prif arddwr yn rhoi taith dywys i ni o amgylch yr ardd.

Mae'r gerddi ffurfiol o amgylch y plas yn hygyrch i gadeiriau olwyn gyda chymorth, gan fod y llwybrau'n bennaf yn rhai graean a glaswellt byr. Mae’r llwybrau yn y glyn a’r llannerch yn y coetir i gyd yn llwybrau naturiol o gerrig a glaswellt a gallant fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb; felly cynghorir esgidiau cadarn.

Gweinir paned hanner ffordd trwy’r daith. Rhoddir eich cyfeiriad e-bost i'r trefnydd, a fydd yn cysylltu â chi i holi am eich gofynion dietegol a bydd hefyd yn gofyn i chi am rif cyswllt mewn argyfwng.

Mae toiledau ar gael ar y safle.

Bydd rhaid i chi wneud eich trefniadau teithio eich hunain. 

Dyma’r cyfeiriad llawn: Plas Maenan, Llanrwst, LL26 0UL. What3Words ///trial.bombard.keyboards.

Mae'r plas 2 filltir i'r gogledd o Lanrwst ar yr A470; os ydych yn teithio ar yr A55, ewch oddi ar y ffordd ar gyffordd 19 ac i'r de tuag at Lanrwst. Mae'r plas tua 9 milltir o'r gyffordd (chwarter awr).

Dim ond 25 lle sydd ar gael.  Archebwch trwy Eventbrite - Plas Maenan

Cost: £17.00 ynghyd â ffi archebu.

View Event →
Teithiau Cerdded Tywysedig Cyhoeddus
Apr
26

Teithiau Cerdded Tywysedig Cyhoeddus

‍ ‍ Dydd Sul y 26ain o Ebrill 2.30 - 4.00 y pnawn

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg

Rydym yn cynnal cyfres o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn, dan arweiniad gwirfoddolwyr o Gyfeillion Treborth. Bydd taith gerdded yr 17eg o Fai yn cael ei harwain yn y Gymraeg.

Os bydd y tywydd yn wlyb, byddwn yn cerdded o amgylch y tai gwydr yn lle.

Rydym yn gofyn am gyfraniad o £5 yr un, a fydd yn cael ei gasglu ar y diwrnod; gellir talu ag arian parod neu gerdyn. Nid oes rhaid archebu lle ymlaen llaw, ond byddai'n gymorth i ni gyda’r trefniadau pe baech yn gwneud.Cliciwch ar y ddolen i fynd â chi i’r dudalen Eventbrite, yna cliciwch ar y botwm "archebu lle".

Ar ôl y daith gerdded bydd diodydd a chacen ar gael i'w prynu. Archebwch eich lluniaeth ymlaen llaw, fel arall ni ellir diwallu anghenion dietegol arbennig.

Man cyfarfod: y tu allan i brif fynedfa adeiladau Gardd Fotaneg Treborth. Gwisgwch esgidiau addas ar gyfer llwybrau glaswellt a heb arwyneb a dillad awyr agored sy'n addas ar gyfer pa bynnag dywydd a ragwelir.

Croeso i bob oed ond ni fydd y daith gerdded yn addas i gadeiriau gwthio na phramiau. Dim cŵn heblaw cŵn tywys.

Photo: Leon Jamieson

View Event →
Arwerthiant Planhigion Dechrau’r Gwanwyn
Apr
18

Arwerthiant Planhigion Dechrau’r Gwanwyn

Lle: Gardd Fotaneg Treborth

Aelodau yn unig 10.00am tan 11.00am;

Y Cyhoedd 11.00am tan 1.00pm.

Mae'r holl blanhigion wedi eu tyfu gan Gyfeillion Treborth a garddwriaethwyr Gardd Fotaneg Treborth Bydd gennym ddewis eang o blanhigion ar gael, a fydd yn cynnwys eginblanhigion llysiau, planhigion unflwydd a lluosflwydd, planhigion cigysol, cacti a phlanhigion suddlon, planhigion tŷ, coed a llwyni, a mwy! Byddwn hefyd yn gwerthu amrywiaeth o luniaeth, a chacennau, jam a siytni. 

Bydd detholiad o fusnesau lleol talentog hefyd yn cynnal eu stondinau eu hunain yn gwerthu cynnyrch lleol a chynnyrch a wnaed â llaw. 

Gallwn gymryd taliadau digyswllt ac arian parod. Parcio am ddim. 

Mae gan aelodau Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth awr arwerthiant preifat o 10.00 tan 11.00. 

View Event →
Taith Gerdded Mwsogl a Gweithdy gyda Sue Grahame
Mar
28

Taith Gerdded Mwsogl a Gweithdy gyda Sue Grahame

Taith Gerdded Mwsogl a Gweithdy gyda Sue Grahame

Dydd Sadwrn yr 28ain o Fawrth 10.00am - 2.00pm

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg

Bydd Sue Grahame, sy’n aelod o’r FTBG ac yn fwsolegydd, yn mynd â chi am dro o amgylch yr ardd i weld yr amrywiaeth anhygoel o fwsoglau a llysiau’r afu sydd gennym ni’n tyfu yma. Ar ôl y daith, bydd cyfle i chi gael golwg ar bryoffytau o dan ficrosgop yn y labordy. Bydd diod a bisgedi ar gael. 

Rhaid archebu – dim ond 10 lle sydd ar gael. Archebwch trwy Eventbrite: Moss Workshop

£10 i aelodau a myfyrwyr (defnyddiwch y ddolen Cysylltwch â Ni uchod i ofyn am god disgownt); £20 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

View Event →
Darlith Goffa Len Beer: Newfoundland’s Natural Wonders
Mar
12

Darlith Goffa Len Beer: Newfoundland’s Natural Wonders

Darlith Goffa Len Beer, a draddodwyd gan Carole ac Ian Bainbridge

Newfoundland’s Natural Wonders

Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg

Darlithfa Eric Sutherland, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG

(cyrraedd o 7.00pm)

Mae Newfoundland yn dalaith ynysig ar arfordir dwyreiniol Canada.  Mae'n hanner maint Prydain Fawr gyda phoblogaeth maint Caerdydd.  Mae gan Newfoundland dirweddau isarctig rhyfeddol ac mae'n gartref i fflora caled anhygoel, yn enwedig mewn ardaloedd o galchfaen a chreigiau serpentin, gyda llawer o degeirianau caled ac ystod eang o blanhigion alpaidd.  Mae'r dyfroedd cerrynt oer o amgylch yr ynys yn gartref i boblogaethau enfawr o adar môr a morfilod, gan wneud hwn yn lle hudolus i ymweld ag ef i unrhyw un sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a'r amgylchedd

Mae Carole ac Ian Bainbridge ill dau yn gyn-Lywyddion Clwb Gerddi Creigiau'r Alban ac yn aelodau o Grŵp Arbenigwyr Gerddi Alpaidd a Cherrig yr RHS.  Maent wedi bod yn tyfu planhigion alpaidd ers tua 45 mlynedd ac fe ddechreuon nhw ar eu gardd Galloway bymtheg mlynedd yn ôl.  Mae ganddynt arbenigedd penodol mewn gerddi agennau.  Ar ôl dilyn gyrfa mewn busnes, aeth Carole ymlaen i dreulio pymtheg mlynedd fel dylunydd gerddi; mae Ian yn ecolegydd/cadwraethwr, a threuliodd wyth mlynedd yn gweithio fel prif gynghorydd ecolegol Llywodraeth yr Alban.  Maent hefyd wedi teithio'n helaeth i weld anifeiliaid alpaidd yn eu cynefinoedd naturiol. 

Pris tocyn: £8 ynghyd â ffi archebu i aelodau AGS neu FTBG (defnyddiwch y botwm Cysylltwch â Ni uchod i ofyn am god disgownt);

£10 i unigolion nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

Am ddim i fyfyrwyr.

Archebwch trwy’r ddolen Eventbrite: Sgwrs Newfoundland

View Event →
Taith Gerdded i Gynhesu yn y Gaeaf 
Feb
15

Taith Gerdded i Gynhesu yn y Gaeaf 

‍ ‍Dydd Sul 15 Chwefror 11.00 - 12.30

Taith gerdded dywys i weld uchafbwyntiau Gardd Fotaneg Treborth yn y gaeaf

Y cyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded tywys o amgylch Gardd Fotaneg Treborth Prifysgol Bangor trwy gydol y flwyddyn. Yn ystod taith gerdded fydd yn para 1-1.5 awr, dan arweiniad gwirfoddolwyr o Gyfeillion Gerddi Treborth, byddwn yn edrych ar uchafbwyntiau'r ardd yn y gaeaf gan gynnwys llwyni blodeuol a bylbiau. Os bydd y tywydd yn wlyb, byddwn yn cerdded o amgylch y tai gwydr yn lle cerdded o amgylch yr ardd.

Rydym yn gofyn am rodd o £5 fesul oedolyn neu £2.50 fesul plentyn (16 oed neu iau) a fydd yn cael ei gasglu ar y diwrnod; gellir talu ag arian parod neu gerdyn. Nid oes rhaid archebu lle ymlaen llaw, ond byddai'n gymorth i ni gyda’r trefniadau pe baech yn gwneud. 

Cliciwch ar y ddolen Taith gerdded gaeaf i fynd â chi i dudalen Eventbrite, yna cliciwch ar y botwm "archebu lle".

Ar ôl y daith gerdded, bydd cawl poeth a diod ar gael am gost ychwanegol fach.

Man cyfarfod: y tu allan i brif fynedfa adeiladau Gardd Fotaneg Treborth. Gwisgwch esgidiau sy’n addas i dywydd gwlyb a mwdlyd a dillad awyr agored sy'n addas i dywydd mis Chwefror.

Croeso i bob oed ond ni fydd y daith gerdded yn addas i fygis na phramiau.

Dim cŵn.

View Event →
Baubles Nadolig gydag Anna o Herbariwm
Dec
7

Baubles Nadolig gydag Anna o Herbariwm

Baubles Nadolig gydag Anna o Herbariwm(Stiwdios Branch & Brush)                                                                      £40

Dydd sul 7fed Rhagfyr  10am - 12pm

Mwynhewch fore o hwyl blodau Nadoligaidd, gan greu baubles Nadolig gydag Anna o Herbariwm (Stiwdios Branch & Brush) perffaith i'w rhoi i rywun annwyl neu i hongian o'r goeden! 

Byddwch yn creu tair baubbl unigryw, wedi’u haddurno â chasgliad Anna o flodau a deiliach a dyfwyd yn lleol, pob un yn defnyddio arddull a thechneg wahanol:

1. Bauble gwydr bach wedi'i ddadgopio â blodau cain wedi'u gwasgu.

2. Bauble gwydr mawr wedi'i lenwi â blodau sych lliwgar.

3. Bauble gwydr blaen agored wedi'i lenwi â blodau sych a botaneg persawrus Nadoligaidd.

Cynhelir y gweithdy yng Ngardd Fotaneg hardd Treborth. Diodydd poeth a mins peis yn gynwysedig.

Rhaid archebu. Archebwch trwy Eventbrite: Bauble workshop

View Event →
Gweithdai Torch Nadolig
Dec
5

Gweithdai Torch Nadolig

Beth am fynd i ysbryd yr ŵyl a gwneud torch Nadolig gyda deunyddiau lleol, naturiol. Bydd teisennau Nadoligaidd a diodydd poeth ar gael.

 £20 ynghyd â ffi archebu i aelodau (defnyddiwch y ddolen Cysylltu â Ni uchod i ofyn am god disgownt); £25 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

Gyda thâl archebu’n ychwanegol.

Archebwch trwy via Eventbrite: Christmas wreath workshop

Dydd Gwener 5 Rhagfyr 4yp - 6yp 

Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 10yp - 12yp

Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2yp - 4yp

View Event →
Cymdeithas Arctig-Alpinaidd Gogledd Cymru: Rosie Turner Tegeirianau a phlanhigion eraill ym mynyddoedd y Vercors
Nov
13

Cymdeithas Arctig-Alpinaidd Gogledd Cymru: Rosie Turner Tegeirianau a phlanhigion eraill ym mynyddoedd y Vercors

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg.

Nos Iau, 13 Tachwedd, 7pm i ddechrau am 7.30pm  

Mae Rosie Turner, sy'n cloi cyfres yr hydref, yn ddarlithydd cymharol newydd ar bynciau alpaidd.  Mae hi’n drefnydd grŵp AGS Southport, a bydd yn dangos tegeirianau a blodau yn y Vercors i ni, ardal nad yw'n cael y sylw y mae'n ei haeddu.   

Mae Parc Cenedlaethol Vercors ar lwyfandir calchfaen yn ne-ddwyrain Ffrainc, i'r de o Grenoble, yn ymestyn i Alpau gorllewinol Ffrainc. Ym mis Tachwedd pan mae’n llaith ac oer, mae'n le cynhesach i'w archwilio.

View Event →
Gwaith Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad: Garddio'r Byd
Nov
10

Gwaith Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad: Garddio'r Byd

Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg.

Digwyddiad rhodd yw hwn (awgrymir £5)

Nos Lun, 10 Tachwedd am 7pm  

Sefydlwyd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i anrhydeddu a gofalu am ddynion a merched lluoedd y Gymanwlad a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, gan sicrhau na ânt fyth yn angof. Ariannwyd y comisiwn gan chwe llywodraeth a dechreuodd eu gwaith trwy adeiladu mynwentydd mewn 23,000 o leoliadau ledled y byd. Maent yn parhau i gynnal a chadw’r mynwentydd hynny.

Heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach, mae'r gwaith yn parhau trwy ymdrechion staff, cefnogwyr a gwirfoddolwyr sy'n diogelu’r dreftadaeth ddiwylliannol, arddwriaethol a phensaernïol unigryw ac yn sicrhau bod hanesion y rhai a fu farw yn parhau i gael eu hadrodd.

Bydd Carol Brown o'r comisiwn yn siarad am eu gwaith garddwriaethol ledled y byd. Nid yw hi'n codi tâl am ei sgwrs, ond byddwn yn rhoi rhodd i'r comisiwn.

Cadwch le a gwnewch gyfraniad trwy'r ddolen Eventbrite hon:  Sgwrs Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad Ynacliciwch ar ‘Get Tickets’. Byddwn hefyd yn derbyn rhoddion, yn ddelfrydol trwy gerdyn, ar y diwrnod.

View Event →
Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)
Oct
18

Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)

Ymunwch â’r artist preswyl Doreen Weaver a fydd yn eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses o ddarlunio a phaentio siapiau cyfareddol yr holl blanhigion: blodau, dail, ffrwythau neu lysiau. Dysgwch ar eich cyflymder eich hun mewn amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol.

Cynhelir y sesiynau bob pythefnos ar y 1af a'r 3ydd dydd Sadwrn o bob mis.

Addas i bob lefel, croeso i ddechreuwyr (dim rhai o dan 16 oed).

Bydd te, coffi a bisgedi.   Gellir darparu deunyddiau i ddechreuwyr.

RHAID ARCHEBU e-bost: doreensbotanicals@gmail.com neu ffoniwch 07508 728418 i gadw lle.

View Event →
Gweithdy a Thaith Gerdded Mwsogl Tywysedig gyda Sue Grahame yng Ngardd Fotaneg Treborth (£10/£15 ynghyd â ffi archebu Eventbrite)
Oct
12

Gweithdy a Thaith Gerdded Mwsogl Tywysedig gyda Sue Grahame yng Ngardd Fotaneg Treborth (£10/£15 ynghyd â ffi archebu Eventbrite)

*** Please Note: EVENT CANCELLED DUE TO ILLNESS ***

Mae llwybr mwsogl wedi ei greu yn yr ardd (mwsoglau a llysiau'r afu Treborth) a bydd hwn yn gyfle i gael eich tywys o amgylch y llwybr gan Sue, aelod o Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth a bryolegydd. Ar ôl y daith, bydd cyfle i chi gael golwg ar bryoffytau o dan ficrosgop yn y labordy. Bydd diod a bisgedi ar gael. 

£10 ynghyd â ffi archebu i aelodau (defnyddiwch Cysylltu â Ni  uchod i ofyn am god disgownt); £15 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae’n hanfodol archebu: Cliciwch yma: Moss walk i archebu.

View Event →
North Wales Arctic Alpine Society: Alan Oatway - Gardening in South Lakeland
Oct
11

North Wales Arctic Alpine Society: Alan Oatway - Gardening in South Lakeland

Dydd Sadwrn, 11 Hydref, 1.30pm i ddechrau am 2pm   

Croeso yn ôl i Alan Oatway a fu yma’n 2016 yn siarad am y blodau o amgylch Everest a Tibet. Y tro hwn, pwnc sy’n nes at adref ac un a fydd, gobeithio, yn berthnasol i ni sy'n garddio yn y gorllewin arfordirol fydd dan sylw ganddo.   

Mae Alan yn ysgrifennu:  "Mae'r sgwrs hon yn trafod llawer o flodau, yng nghyd-destun garddio ar greigiau ac yn y cysgod yn fy ngardd fy hun. Rwyf wedi eu rhannu'n adrannau sy’n cynnwys gwelyau plannu uwch, amodau coetir, gwlybaniaeth, creigiau ac "arall" - yr olaf er mwyn cynnwys yr holl ffefrynnau nad oeddent yn ffitio'n gynharach!"

View Event →
Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)
Oct
11

Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)

Ymunwch â’r artist preswyl Doreen Weaver a fydd yn eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses o ddarlunio a phaentio siapiau cyfareddol yr holl blanhigion: blodau, dail, ffrwythau neu lysiau. Dysgwch ar eich cyflymder eich hun mewn amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol.

Cynhelir y sesiynau bob pythefnos ar y 1af a'r 3ydd dydd Sadwrn o bob mis.

Addas i bob lefel, croeso i ddechreuwyr (dim rhai o dan 16 oed).

Bydd te, coffi a bisgedi.   Gellir darparu deunyddiau i ddechreuwyr.

RHAID ARCHEBU e-bost: doreensbotanicals@gmail.com neu ffoniwch 07508 728418 i gadw lle.

View Event →
Half Ffwng
Oct
4

Half Ffwng

THIS EVENT HAS BEEN POSTPONED UNTIL 18th OCTOBER DUE TO DANGEROUS WEATHER CONDITIONS

Digwyddiad rhoi.

Mae lliwiau a siapiau’r ffyngau a’r straeon amdanynt yn hudolus. Dewch i chwilio amdanyn nhw yn Nhreborth!

Mae’n bleser gennym groesawu’r arbenigwyr, Nigel Brown a Charles Aron, yn ôl i Dreborth i’r helfa ffwng flynyddol. Mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr. Mae dros 400 o rywogaethau yn Nhreborth, ac mae’n gyfle gwych i’r teulu oll ddysgu mwy am y byd cudd rhyfeddol hwn.

Lluniaeth ar werth.

Dim angen cadw lle. Dewch yn brydlon a chwrdd y tu allan i'r prif adeilad.

Croesewir rhoddion (£5 yw’r awgrym i oedolion - cliciwch ar y Rhoddion uchod). Byddwn hefyd yn derbyn rhoddion, gyda cherdyn yn ddelfrydol, ar y diwrnod.

View Event →
Taith gerdded dywysedig gyda Nigel Brown i Drwyn Eilian
Sept
27

Taith gerdded dywysedig gyda Nigel Brown i Drwyn Eilian

Digwyddiad cyflwyno rhodd (argymhellir £5)

Prif nod y daith gerdded fydd gweld a thrafod adnabod ac ecoleg adar môr fel yr Hugan, gwahanol rywogaethau o Wylanod a rhai Môr-wenoliaid hwyr, Mulfrain gwyrddion a Mulfrain, Trochyddion, Adar Drycin y Graig, o bosibl rhai Adar Drycin Manaw hwyr, ac amrywiol Garfilod gan gynnwys y Gwylog Ddu. Ar y tir, Corhedyddion, Llinosiaid, Nicos, Clochdar y Cerrig, Brân Goesgoch, Cudyll Coch, Cigfran. Yn ogystal â'r diddordeb adaregol mae gennym gyfle da o weld morfilod, yn enwedig Llamidyddion. Dylai fod rhywfaint o grug yr arfordir (Calluna, Erica, eithin mân) yn blodeuo o hyd. Mae canewin gwyllt yn tyfu yno hefyd.

Rhaid archebu – uchafswm o 25 lle. Archebwch a gwnewch eich rhodd (argymhellir £5)

drwy Eventbrite:Taith gerdded Trwyn Eilian

Gwelwch Darllen Mwy isod am fanylion pwysig.

View Event →
Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)
Sept
20