Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Rydym yn cefnogi gardd fotaneg Prifysgol Bangor drwy godi arian, gwirfoddoli yn yr ardd, a hyrwyddoโ€™r gwaith cadwraeth aโ€™r gwaith addysgol gwerthfawr a wneir yno.

Mae'r Cyfeillion yn sefydliad elusennol llwyddiannus iawn gyda mwy na 400 o aelodau.

Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis darlithoedd, gweithdai, teithiau maes, ymweliadau รข'r ardd, digwyddiadau gwerthu planhigion a diwrnodau agored.

Mae rhai Cyfeillion yn mwynhau gwirfoddoli yn yr ardd ar ddydd Mercher neu ddydd Gwener, mae'n well gan rai helpu mewn digwyddiadau arbennig ac mae rhai yn cefnogi trwy eu tanysgrifiad aelodaeth.

Rydym yn cyhoeddi newyddlen bob chwech mis - adolygiad 50 tudalen syโ€™n cynnwys darluniau a newyddion am yr ardd, ac erthyglau a gyfrannwyd gan y cyfeillion ar ystod eang o bynciau perthnasol.

Mae Gardd Fotaneg Treborth wediโ€™i lleoli ar lannau eiconig y Fenai, rhwng y ddwy bont hanesyddol syโ€™n ei chroesi, sef Pont Menai a Phont Britannia.