Cewch ddod ag unrhyw blanhigyn alpaidd. Gall unrhyw un o gwbl roi cynnig arni! Caniateir arddangos mwy nag un planhigyn mewn unrhyw ddosbarth. Rydym yn gobeithio am arddangosfa fawr, liwgar ac amrywiol sy'n dathlu amrywiaeth y planhigion a dyfwn. Bydd y beirniadu drwy bleidlais boblogaidd - gyda phawb sy'n dod felly yn cymryd rhan.
Dosbarthiadau Planhigion Alpaidd
Dosbarth 1 1 planhigyn creigiog yn ei flodau mewn pot neu badell dim mwy nag 19cm
Dosbarth 2 1 planhigyn creigiog yn ei flodau mewn pot neu badell dim mwy na 36cm
Dosbarth 3 1 corlwyn mewn padell (gan gynnwys planhigyn grugaidd) dim mwy na 36cm
Dosbarth 4 1 badell o blanhigion bylbiau, gyda’r badell heb fod yn fwy nag 19cm
Dosbarth 5 1 planhigyn creigiog a luosogwyd (o had neu o doriad) gan yr arddangoswr, mewn padell dim mwy nag 19 cm
Dosbarth 6 1 planhigyn creigiog mewn padell i arddangoswyr newydd - dim cyfyngiad ar faint y potyn
Dosbarth 7 1 cor-gonwydd neu gorlwyn, gyda’r badell yn ddim mwy na 36cm
Dosbarth 8 Gardd fechan mewn cafn neu badell. Dim terfyn maint
Dechreuwr = rhywun nad yw wedi ennill gwobr gyntaf yn Sioeau Cenedlaethol Y Gymdeithas Gerddi Alpaidd.
Dosbarthiadau Cyffredinol
Dosbarth 9 1 planhigyn creigiog mewn padell i greu effaith dail
Dosbarth 10 1 redynen wydn mewn padell
Dosbarth 11 Planhigyn tŷ neu dŷ gwydr (nid alpaidd), potyn o unrhyw faint
Dosbarth 12 1 Tegeirian gwydn mewn padell
Dosbarth 13 1 planhigyn suddlon neu gactws mewn padell
Dosbarth 14 Y planhigyn rhyfeddaf
Dosbarth 15 Ffiol o flodau o'ch gardd
Dosbarth 16 Ffotograff o flodyn alpaidd yn y gwyllt neu'r ardd
Dosbarth 17 Llun o'ch gardd neu blanhigyn yn eich gardd
Dosbarth 18 Peintio, brodwaith neu unrhyw waith llaw gyda thema alpaidd
(Nid oes terfyn ar faint y potyn mewn dosbarthiadau cyffredinol)
Dangoswch enw pob planhigyn